View text: Small Medium Large
Iechyd

Iechyd

Costau iechyd

Does dim tâl am ymweld â meddyg GIG mewn meddygfa leol nac mewn ysbyty.Mae rhai pobl yn dewis talu am driniaeth breifat er mwyn cael triniaeth yn gyflymach. Mae deintyddion yn aml yn codi tâl am driniaeth, ond bydd yn llawer rhatach os ydyn nhw’n ddeintyddion GIG, ac mae’n bosib y byddwch yn gallu cael help gyda’r costau yma.

Os ydych chi’n 16 neu’n 17 oed ac yn cael eich cefnogi gan awdurdod lleol oherwydd eich bod wedi gadael gofal yn ddiweddar, gallwch hawlio help llawn gyda chostau iechyd trwy Gynllun Incwm Isel y GIG. Mae hyn yn cynnwys pethau fel deintyddion, arian ar gyfer sbectol, a theithio i apwyntiadau meddygol. Gofynnwch i’ch gweithiwr cymdeithasol am ffurflen hawlio HC1 (SC) neu defnyddiwch y ddolen ar ein gwefan neu yng nghefn y cynllunydd.

Presgripsiynau

Os bydd eich Meddyg Teulu yn rhoi presgripsiwn am foddion i chi, dylech fynd â’r presgripsiwn i unrhyw fferyllfa i gael y moddion. Fydd dim rhaid i chi dalu, achos mae presgripsiynau ar gael am ddim i bawb yng Nghymru.