Ffwrn/Popty
Cownteri
Buddsoddwch mewn hylif glanhau ar gyfer cownteri eich cegin. Chwistrellwch yr hylif ar y cownter a gadael iddo weithio am rai eiliadau. Defnyddiwch bapur cegin i’w sychu i ffwrdd.
Gallech chi hefyd greu eich hylif glanhau eich hun trwy gymysgu hanner finegr gwyn a hanner dŵr mewn potel chwistrellu.
Glanhau Meicrodon
- Cymysgwch hanner finegr gwyn a hanner dŵr mewn powlen. Os oes eisiau glanhau ysgafn, mae hanner cwpan yr un yn ddigon. Os oes eisiau glanhau go iawn, defnyddiwch gwpanaid o bob un.
- Rhowch ddeintbig neu rywbeth arall bach pren yn y bowlen. Bydd hyn yn cadw’r cymysgedd rhag ffrwtian yn rhy ffyrnig.
- Gwresogwch y bowlen am 5-10 munud, yn dibynnu ar pa mor frwnt yw eich microdon. Gadewch y bowlen yn y microdon am ychydig funudau wedi i’r amser ddod i ben.
- Tynnwch y bowlen allan. Byddwch yn ofalus – mae’n mynd i fod yn boeth, felly defnyddiwch fenig ffwrn. Defnyddiwch sbwnj/sgwriwr i lanhau’r tu mewn i’r microdon.
- Defnyddiwch bapur cegin i sychu.
Gallwch lanhau meicrodon gyda lemwn a dwr!
Llawr Cegin
- Defnyddiwch frwsh i sgubo’r llawr, er mwyn casglu’r llwch a’r briwsion.
- Defnyddiwch fop a bwced o ddŵr â sebon ynddo i gadw llawr y gegin yn lân dros ben!