View text: Small Medium Large
Glanhau Stafell Fyw

Glanhau Stafell Fyw

  1. Tacluswch! Casglwch unrhyw sbwriel a’i roi yn y bin.
  2. Ewch ag unrhyw beth sydd ddim i fod yn y stafell fyw allan o’r stafell, a’i roi i gadw.
  3. Defnyddiwch beiriant sugno llwch neu frwsh i dynnu’r gwe pry cop o’r nenfwd a’r llwch oddi ar unrhyw oleuadau/wyntyll ac ati.
  4. Defnyddiwch y peiriant sugno llwch i glirio briwsion a llwch oddi ar y soffas a’r cadeiriau.
  5. Defnyddiwch liain gwlyb i sychu’r byrddau a’r teledu.
  6. Os bydd angen glanhau ffenestri, chwistrellwch hylif glanhau ffenestri ar y gwydr, ac yna ei sychu’n lân â phapur cegin neu liain.
  7. Os oes gennych chi lawr caled, dylech ei sgubo ac yna’i lanhau â mop gwlyb. Defnyddiwch beiriant sugno llwch ar unrhyw garpedi.
  8. Agorwch y ffenestri i adael aer i mewn!