- Gwahanwch y dillad golau a’r dillad tywyll.
- Edrychwch ar y tagiau. Fydd rhai dillad dim ond yn addas i’w golchi â llaw neu eu sychlanhau. Rhowch y dillad yna o’r neilltu.
- Dewiswch dymheredd y dŵr. Fel arfer mae dŵr mwy oer yn cael ei defnyddio ar gyfer y rhan fwyaf o ddillad tra bod dŵr poeth yn cael ei defnyddio ar gyfer pethau fel tywelion.
- Gosodwch yr amser. Bydd y rhan fwyaf o beiriannau golchi yn gwneud hyn yn awtomatig, ond os bydd angen i chi wneud hynny eich hunan, mae rhwng awr ac awr a hanner yn dda, yn dibynnu ar pa mor frwnt yw eich dillad!
- Rhowch y dillad yn y peiriant golchi.
- Edrychwch yn llawlyfr eich peiriant golchi i weld pa fath o lanedydd (detergent) dylech chi ddefnyddio. Mae angen hylif golchi hynod effeithlon ar rai peiriannau, tra bod eraill yn defnyddio powdwr cyffredin. Weithiau bydd yn cael ei roi ar ben y dillad neu yn y drôr bach yn rhan uchaf y peiriant golchi. Darllenwch y cyfarwyddiadau ar y pecyn i weld faint i’w ddefnyddio.
- Trowch y peiriant ymlaen ac ymlaciwch!
Bydd y fideo yma yn helpu chi wrth i chi ddechrau golchi dillad eich hun
Mae yna hefyd gwybodaeth yma i’ch helpu i ddeall y tagiau ar du fewn eich dillad, sy’n esbonio sut dylen nhw cael eu golchi.