View text: Small Medium Large
Newid Bylb Golau

Newid Bylb Golau

  1. Diffodd y pŵer. Y ffordd fwyaf diogel o wneud hyn yw troi’r prif fotwm pŵer i ‘off’ ar eich bocs ffiwsys.
  2. Gofalu eich bod chi’n gallu cyrraedd y bylb yn ddiogel. Defnyddiwch ysgol fach os oes un gennych chi.
  3. Gadael i’r bylb oeri cyn cyffwrdd ag e.
  4. Tynnu’r bylb. Cymerwch y bylb allan o’r soced. Bydd sut mae gwneud hyn yn dibynnu ar y math o fylb yw e – ffitiad bidog (bayonet) neu sgriw:
    • Bidog (dau big) Cydiwch yn y bylb yn gadarn ond heb wasgu’n ormodol, gwthiwch ef i fyny a’i droi i gyfeiriad gwrthglocwedd nes iddo gael ei ryddhau o’r soced.
    • Sgriw Trowch y bylb yn ofalus i gyfeiriad gwrthglocwedd nes iddo ddod yn rhydd o’r soced.
  5. Newid y bylb – Rhowch fylb newydd yn ofalus ond yn gadarn yn y soced. Yn dibynnu ar y ffitiad, trowch y bylb i gyfeiriad clocwedd nes ei fod yn cloi i’w le, neu daliwch ati i droi’n ofalus i gyfeiriad clocwedd nes ei fod yn peidio â throi.
  6. Adfer y pŵer – Trowch y pŵer yn ôl ymlaen a chynnau’r golau.
  7. Gwaredu’r hen fylb – Gwaredwch yr hen fylb yn ddiogel. Defnyddiwch becynnu’r bylb newydd i lapio’r hen un cyn cael gwared ohono fe.