- Edrychwch ar y tag. Dylai ddweud ydych chi’n gallu smwddio’r dilledyn, a hefyd ar ba lefel tymheredd dylech chi wneud hynny.
- Llanwch yr haearn â dŵr.
- Dewiswch y tymheredd cywir. Plygiwch yr haearn i mewn ac aros iddo gynhesu. Peidiwch a’i adael wyneb i lawr, oherwydd bydd yn llosgi beth bynnag sy dano! Fel arfer bydd haearn yn dweud wrthych chi ei fod yn ddigon poeth i’w ddefnyddio – mae gan y rhan fwyaf olau sy’n mynd allan pan fyddan nhw’n barod.
- Didolwch y dillad. Os ydych chi’n gwneud llawer o ddillad, ac mae angen defnyddio gwahanol dymheredd, dechreuwch gyda’r dillad sydd angen yr haearn oeraf, a gweithio eich ffordd i fyny i’r cynhesaf.
- Rhowch y dillad i hongian neu eu plygu. Byddan nhw’n crychu’n rhwydd ar ôl oeri.
Eisiau gwybod sut i smwddio? Gwyliwch y fideo yma i ddysgu mwy: