View text: Small Medium Large
16 – 18 Oed

16 – 18 Oed

Cynllun Llwybr

Ar ôl cyrraedd 16 oed rwyt ti’n gallu cael Cynllun Llwybr.

Bydd yn sôn am y gefnogaeth rwyt ti angen i roi help i ti fod yn fwy annibynnol wrth ddatblygu’n oedolyn. Bydd yn cario ymlaen o’r Cynllun Gofal oedd gen ti.

Mae angen i dy Gynllun Llwybr feddwl am y pethau yma:

  • dy iechyd a’th ddatblygiad (gan gynnwys iechyd meddwl)
  • beth rwyt ti eisiau o ran addysg, hyfforddiant a chyflogaeth
  • cyswllt â theulu a ffrindiau
  • rheoli dy arian.

Rhaid rhoi dy farn di yn y cynllun, a rhaid rhoi copi o’r cynllun i ti.

Mae angen i’th awdurdod lleol drafod dy Gynllun Llwybr gyda thi’n rheolaidd i wneud yn siŵr bod e’n gwneud beth rwyt ti angen.

Pan fydda i’n Barod

Mae rhaid i’th awdurdod lleol ofyn i ti wyt ti eisiau aros gyda dy ofalwr maeth nes bod ti’n 21, o dan y trefniant ‘Pan fydda i’n barod’.

Gwybodaeth am arian

Dylen nhw roi gwybodaeth i ti am unrhyw arian rwyt ti’n gallu cael neu ofyn amdano, gan gynnwys arian o gronfa Dydd Gŵyl Dewi.

Ymgynghorydd personol

Dylet ti gael ymgynghorydd personol – rhywun i’th helpu di drwy’r broses gyfan, ond nid dy weithiwr cymdeithasol.

Dy gartre

Mae angen iddyn nhw wneud yn siŵr bod gen ti rywle addas i fyw a digon o arian i fyw.

Eiriolaeth

Rwyt ti’n gallu cael eiriolydd annibynnol i roi cefnogaeth i ti pan fyddai di’n gwneud unrhyw benderfyniadau.

Dysgu mwy am beth yw eiriolydd.

Cyfarfod Adolygu Statudol

Cyn bod unrhyw symud yn gallu digwydd, mae rhaid i’r IRO arwain cyfarfod (o’r enw Cyfarfod Adolygu Statudol) i drafod wyt ti’n barod i symud.

Ddylai neb wneud i ti feddwl bod rhaid i ti ‘adael gofal’ cyn bod ti’n barod.

Mynd nôl i ofal

Os wyt ti wedi symud nôl at dy deulu gwaed ac mae’r trefniant yna’n methu cyn dy ben-blwydd yn 18, rwyt ti’n gallu mynd nôl i ofal, os wyt ti eisiau.