View text: Small Medium Large
18 – 21 Oed

18 – 21 Oed

Ymgynghorydd Personol

Ar ôl cyrraedd 18 oed, falle bydd dim gweithiwr cymdeithasol gen ti.

Mae rhaid i ti gael Ymgynghorydd Personol i roi cefnogaeth i ti a’th helpu i gadw mewn cysylltiad â’r Awdurdod Lleol.

Rhaid i’th Ymgynghorydd Personol roi’r cyngor a’r gefnogaeth sydd yn dy Gynllun Llwybr i ti, fel helpu ti gyda materion ariannol, ble byddi di’n byw, swyddi, addysg a hyfforddiant.

Hefyd mae rhaid iddyn nhw ymweld â thi a chadw mewn cysylltiad â thi.

Gall eich Cynghorydd Personol eich cefnogi hyd at 25 oed, os dyna beth rydych chi eisiau.

Dy Gynllun Llwybr

Rwyt ti’n gallu siarad am dy Gynllun Llwybr yn rheolaidd gyda’r awdurdod lleol i wneud yn siŵr bod e’n dal yn iawn i ti, os wyt ti eisiau.

Addysg a Hyfforddiant

Mae rhaid i’th awdurdod lleol roi help i ti gyda chostau addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.

Falle byddi di’n gallu cael arian o gronfa Dydd Gŵyl Dewi ar gyfer hyn hefyd.

Mae rhaid i’r Awdurdod Lleol geisio dy helpu i fyw’n agos at ble rwyt ti’n gweithio, neu safle dy addysg neu dy hyfforddiant. Os byddan nhw’n methu gwneud hynny, bydd angen iddyn nhw dalu am dy gostau teithio i’r lleoedd yma.  

Pan Fydda i’n Barod

Os wyt ti mewn “Lleoliad Pan Fydda i’n Barod” rwyt ti’n gallu cadw’r trefniadau yma nes bod ti’n 21.  

Os wyt ti mewn trefniant ‘Pan Fydda i’n Barod’, dylen nhw gefnogi ti a’r oedolion rwyt ti’n byw gyda nhw (oedd yn arfer bod yn ofalwyr maeth i ti). Dylen nhw wneud yn siŵr hefyd bod ti’n dal yn hapus gyda’r trefniant sy gen ti.