View text: Small Medium Large
18-25 oed os rydych chi wedi gadael gofal ac wedi penderfynu i ddechrau addysg bellach neu hyfforddiant

18-25 oed os rydych chi wedi gadael gofal ac wedi penderfynu i ddechrau addysg bellach neu hyfforddiant

Os wyt ti’n berson ifanc 18-25 sy’n gadael gofal, ac yn penderfynu mynd nôl i addysg a hyfforddiant, er bod ti wedi gadael gofal, mae rhaid i’r awdurdod lleol gefnogi ti i wneud hynny.

Grant gan yr Awdurdod Lleol

Dylen nhw roi Grant Awdurdod Lleol i ti i helpu gyda chost addysg a hyfforddiant.

Costau byw

Mae rhaid iddyn nhw roi help i ti gyda chost byw yn agos at leoliad dy addysg a hyfforddiant.

Gwybodaeth am arian

Dylen nhw roi gwybodaeth i ti am unrhyw arian mae gen ti hawl i’w dderbyn neu rwyt ti’n gallu gofyn amdano, gan gynnwys arian o gronfa Dydd Gŵyl Dewi.

Ymgynghorydd Personol a Chynllun Llwybr

Rwyt ti’n gallu cael ymgynghorydd personol, ac mae cynllun llwybr yn gallu cael ei ddatblygu i ti.

Troi’n 25

Rwyt ti’n gallu dal i dderbyn y gefnogaeth yma nes bod ti’n 25, neu os bydd dy cwrs yn mynd ymlaen ar ôl i ti gyrraedd 25 oed, mae rhaid i’r awdurdod lleol gefnogi ti nes bod y rhaglen yn dod i ben.

Os bydd angen i ti stopio dy addysg neu dy hyfforddiant am gyfnod o amser, rhaid i’r awdurdod lleol barhau i roi cefnogaeth resymol i ti nes bod ti’n dechrau dy gwrs eto.