View text: Small Medium Large
21-25 oed ac mewn addysg uwch

21-25 oed ac mewn addysg uwch

Os byddi di’n dewis mynd ymlaen i addysg uwch (fel Prifysgol), mae angen i’th awdurdod lleol roi cefnogaeth ychwanegol i helpu ti gyda hynny, fel:

  • Rhoi bwrsariaeth addysg uwch i ti;
  • Rhoi gwybodaeth i ti am unrhyw arian mae gen ti hawl i’w dderbyn neu rwyt ti’n gallu gofyn amdano, mae hynny’n cynnwys arian o gronfa Dydd Gŵyl Dewi;
  • Gwneud yn siŵr bod gen ti rywle addas i fyw yn y gwyliau, neu roi digon o arian i ti fedru trefnu hynny dy hunan;
  • Gall dy ymgynghorydd personol ddal i roi cefnogaeth i ti, a bydd gen ti gynllun llwybr wedi’i adnewyddu;
  • Os bydd rhywbeth yn torri ar draws dy addysg neu dy hyfforddiant, rhaid i’r awdurdod lleol wneud popeth rhesymol i barhau i roi cefnogaeth i ti nes bod ti’n mynd nôl at dy gwrs.
  • Mae rhaid i’r Awdurdod Lleol gefnogi ti nes bod ti’n gorffen dy gwrs.

Rhagor o wybodaeth

Dylai fod gan bob awdurdod lleol ei bolisi ei hun ar y gefnogaeth mae’n gallu cynnig i ti, felly mae’n bwysig gofyn am hynny os bydd gen ti unrhyw gwestiynau. Hefyd rwyt ti’n gallu gofyn sut bydd yr awdurdod lleol yn cefnogi ti os wyt ti eisiau dilyn cwrs ôl-raddedig.

Pan Fydda i’n Barod

Os wyt ti mewn lleoliad “Pan Fydda i’n Barod” rwyt ti’n gallu aros yn y trefniant yma nes bod ti’n gorffen dy gwrs neu dy hyfforddiant.