Dweud eich dweud
- Mae gennych chi hawl i ddweud eich dweud, ac i gael pobl yn gwrando ar eich barn ym mhob cam wrth i chi gynllunio i fyw’n annibynnol.
- I gwyno os ydych chi’n anhapus am unrhyw wasanaeth neu driniaeth rydych chi wedi eu derbyn.
- I gael eiriolwr sy’n gallu eich helpu i siarad drosoch eich hun a gwneud yn siŵr bod eich barn yn cael ei chlywed.
Gwneud beth sydd orau i chi
- Mae gennych chi hawl i aros mewn gofal nes eich bod chi’n 18 os ydych chi eisiau.
- I ddod yn ôl i ofal nes eich bod chi’n 18 os byddwch chi’n newid eich meddwl.
- I aros gyda’ch gofalwr maeth tan eich bod chi’n 21, neu 25 os rydych chi mewn addysg, fel rhan o’r trefniant ‘Pan dwi’n barod’.
- I gael asesiad o’ch anghenion.
- I gael oedolion yn gwneud beth sydd orau i chi
Eich dyfodol
- Mae gennych chi hawl i gael Cynllun Llwybr sy’n cael ei adolygu o leiaf bob blwyddyn.
- I gael Ymgynghorydd Personol i’ch helpu wrth i chi ddilyn eich Cynllun Llwybr (dylai’r person yma fod yn rhywun gwahanol i’ch gweithiwr cymdeithasol).
Cefnogaeth
- Mae gennych chi hael i gael help a chefnogaeth ychwanegol os oes gennych chi anghenion addysgol arbennig.
- I gael cefnogaeth gan yr awdurdod lleol ac iddyn nhw aros mewn cysylltiad â chi nes eich bod chi’n 21 (25 os ydych chi mewn addysg bellach).
- I gael parchu eich diwylliant a’ch cefndir teuluol.
- I gael eich trin ag urddas
Byw ar ben eich hun
- Mae gennych chi hawl i gael llety wedi’i ddarparu a’i dalu ar eich cyfer nes eich bod chi’n 18
- I gael help a chefnogaeth i ddod o hyd i lety nes eich bod chi’n 21.
- I gael help i ddysgu’r sgiliau rydych chi angen i fyw’n annibynnol.
- I dderbyn Grant Gadael Gofal i helpu i sefydlu eich cartref eich hun
Eich addysg
- Mae gennych hawl i gael eich annog i fynd mor bell ag y gallwch gyda’ch addysg.
- I gael help ariannol ychwanegol er mwyn i chi allu aros mewn addysg.
Iechyd
- I gael gofal iechyd da, ac i gael eich cofrestru gyda meddyg a deintydd.