View text: Small Medium Large
Pobl

Pobl

Wrth i chi dderbyn gofal byddwch wedi nabod rhai pobl sydd â’r gwaith o’ch helpu a’ch cefnogi.

Meddygon Teulu (sydd hefyd yn cael eu galw’n GPs)

Dylech chi allu cofrestru gydag unrhyw feddygfa meddyg teulu yn eich ardal leol os oes lle ganddyn nhw.

Gweithwr cymdeithasol

Mae gan bob person ifanc sydd mewn gofal weithiwr cymdeithasol.

Ymgynghorydd personol

Ychydig cyn i chi gyrraedd 16 oed dylech chi gael ymgynghorydd personol yn ogystal (weithiau yr enw ar y person yma yw Ymgynghorydd Llwybr neu fentor).

Ei swydd yw gwneud yn siŵr eich bod chi’n cael yr help ymarferol a’r cyngor rydych eu hangen.

Mae eich ymgynghorydd personol yno i’ch helpu i weithio gam wrth gam drwy’r broses o baratoi i adael gofal, a dylai fod yn berson gwahanol i’ch gweithiwr cymdeithasol.

Eiriolwr

Eiriolwr yw rhywun sy’n helpu pobl ifanc i godi llais drostyn nhw eu hunain.

Bydd eiriolwr yn eich helpu i leisio barn pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud am eich bywyd. Mae eiriolaeth yn golygu cynghori, helpu a chefnogi pobl ifanc i wneud dewisiadau gwybodus.

Mae gan bob plentyn a pherson ifanc sy’n derbyn gofal hawl i eiriolwr.

Mae rhaid i’ch awdurdod lleol roi eiriolwr i chi os ydych chi eisiau un.

Os nad oes gennych eiriolwr, ond bod chi eisiau un, gofynnwch i’ch gweithiwr cymdeithasol i’ch helpu.

Os rydych chi’n cael trafferth gyda hyn cyslltwch gyda ni.

Swyddog Adolygu Annibynnol

Mae rhaid i bob awdurdod lleol benodi Swyddog Adolygu Annibynnol (IRO) I gadeirio cyfarfodydd adolygu’r holl blant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal.

Dylen nhw gwrdd â chi cyn y cyfarfodydd, a nhw sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod y Cynlluniau Gofal a’r Cynlluniau Llwybr yn cael eu cyflawni.

Dydyn nhw ddim yn rhan o’r gwasanaethau cymdeithasol, ac maen nhw’n rhywun sydd yno i sicrhau eich bod chi’n cael eich trin yn dda ac yn deg, a bod pobl yn gwrando arnoch chi.

Swyddog cwynion

Weithiau efallai byddwch chi’n teimlo bod pethau ddim yn mynd yn dda, a bod angen i chi ddweud wrth rywun sy’n gallu helpu i roi pethau’n iawn.

Gallwch gysylltu â swyddog cwynion eich awdurdod lleol (weithiau yr enw ar y person yna yw swyddog cysylltiadau cwsmer).

Gallwch hefyd ddweud wrth y bobl yma am unrhyw beth oedd yn dda neu o help yn eich barn chi, fel eu bod nhw’n gallu gwneud yn siŵr bod pobl ifanc eraill yn cael yr help yna.

Person penodedig sydd gen i yn yr ysgol

Dylai fod gennych chi eisoes berson penodol yn yr ysgol sydd yno i roi help a chefnogaeth i chi.

Gallai’r person yna fod yn un o’r athrawon neu’n rhywun arall yn yr ysgol. Nhw sy’n gyfrifol am ysgrifennu eich Cynllun Addysg Personol (CAP) a gwneud yn siŵr bod popeth yn digwydd.

Dylai eich cynllun addysg eich helpui wneud y gorau gallwch chi yn yr ysgol a dylech chi gael roi eich barn arno fe.

Ar ôl 16 efallai byddwch chi’n penderfynu aros yn yr ysgol, mynd i’r coleg, cael hyfforddiant neu gael swydd.

Os ydych chi’n aros mewn addysg amser llawn bydd gan eich person penodedig rôl bwysig yn eich cefnogi os byddwch chi’n aros yn yr un ysgol neu’n mynd i ysgol newydd neu goleg.

Gyrfaoedd

Dylech chi fod wedi cwrdd ag Ymgynghorydd Gyrfaoedd ym Mlwyddyn 9 yn yr ysgol.

Rhif fy swyddf a Gyrfa Cymru leol:

Gall Gyrfa Cymru roi cyngor i chi ar gyfer y dyfodol – help gyda dewis cyrsiau, gwaith a phrentisiaethau, yn ogystal â dysgu, sgiliau ac opsiynau cymwysterau ôl-16.

Efallai bod gennych chi Swyddog Lles Myfyrwyr. Adiwch ei manylion yma.

Cyswllt tai

Mae gan lawer o awdurdodau lleol gytundebau rhwng y gwasanaethau cymdeithasol a’r adran tai, ac mae ganddyn nhw weithwyr sy’n arbenigo mewn trefnu tai i bobl ifanc.

Efallai mai gweithiwr cymdeithasol tai neu swyddog sy’n gyfrifol am bobl ifanc yn adran tai yr awdurdod lleol fydd yn gwneud y gwaith yma.

Ewch ati i ddarganfod enw’r person sy’n gyfrifol am eich helpu chi gyda materion tai. Os dydych chi ddim yn gwybod, gofynnwch i’ch gweithiwr cymdeithasol neu eich ymgynghorydd personol, neu ffoniwch eich adran tai leol.

Deintydd

Mae rhai deintyddion yn cynnig triniaeth GIG (NHS), mae rhai yn cynnig triniaeth breifat, ac mae rhai yn cynnig cyfuniad o’r ddau.

Mae rhai deintyddion preifat hefyd yn cynnig polisïau yswiriant i dalu am gost eich triniaeth. Wrth chwilio am ddeintydd, mae’n werth chwilio am ddeintydd GIG, achos fydd hynny ddim mor ddrud â defnyddio deintydd preifat – ond mae hynny’n gallu bod yn anodd mewn rhai ardaloedd.