Cynhwysion
- 2 ŵy
- Halen a phupur
- Menyn (neu olew)
- Caws
Dull
- Craciwch yr ŵyau i mewn i bowlen gymysgu gyda phinsiaid o halen a phupur. Curwch nhw’n dda â fforc.
- Rhowch badell ffrio fach ar wres isel a gadael iddi gynhesu. Ychwanegwch ychydig o fenyn. Pan fydd y menyn wedi toddi ychwanegwch yr ŵyau. Pan fydd yr omlet yn dechrau caledu, taenellwch gaws drosto.
- Gan ddefnyddio sbatiwla, rhyddhewch ymylon yr omlet, cyn ei blygu yn ei hanner. Pan fydd y gwaelod yn dechrau troi’n frown euraid, tynnwch y badell oddi ar y gwres a llithro’r omlet i’r plât.