- Cynheswch y ffwrn/popty i 220C/200C ffan/nwy 7. Rhwbiwch ychydig olew a halen a phupur dros y tatws, ac yna eu pobi ar hambwrdd pobi am 25 munud. Trowch y ffwrn/popty lawr i 190C/170C ffan/nwy 5 a’u pobi am 1 awr-1 awr 15 munud arall, nes bod y croen yn euraid ac wedi crasu.
- Dull cyflymach yw tyllu’r daten â fforc. Lapiwch hi mewn dalen o bapur cegin a’i rhoi yn y microdon am 8-10 munud nes ei bod yn feddal y tu mewn.
- Ychwanegwch y ffa Ffrengig a’r coriander ffres. Coginiwch am 10 munud arall, heb ei orchuddio, cyn ei dynnu oddi ar y gwres.
- Gallech roi llwyaid o iogwrt plain neu hufen sur ar ei ben, a’i weini gyda reis, tatws pob neu fara crystiog.