Cynhwysion
- 1 clof garlleg
- 1 neu 1/2 winwnsyn, yn ôl eich dewis
- 1 llwy fwrdd o fasil
- 1 llwy fwrdd o berlysiau cymysg
- 1 llwy de o biwrî tomato (neu sôs coch yn ei le)
- Tun o domatos wedi’u torri’n fân
- 1 llwy de o siwgwr
- pupur at eich dant
- pasta/spaghetti
Dull
- Torrwch y winwnsyn a’i ffrio ar wres canolig/uchel. Ychwanegwch lwy de o siwgwr at yr wnionod wrth iddyn nhw ffrio. Pan fydd yr wnionod yn dechrau troi’n euraid, ychwanegwch y garlleg sydd wedi’i dorri’n fân/ei wasgu. Trowch am funud, gan sicrhau nad yw’r garlleg yn llosgi.
- Ychwanegwch y tun o domatos. Trowch y cymysgedd.
- Ychwanegwch y basil, y perlysiau cymysg a’r piwrî tomato/sôs coch. Blaswch y cymysgedd, ei droi a’i goginio am ryw 5 munud. Cynheswch nes ei fod yn ffrwtian a throwch y gwres i lawr i lefel ganolig/isel fel ei fod yn mudferwi.
- Yn y cyfamser, coginiwch y pasta mewn sosban ar wahân. Cofiwch droi’r saws yn rheolaidd wrth wneud y pasta er mwyn sicrhau nad yw’n glynu at waelod y sosban.
- Gweinwch, gan ychwanegu digon o gaws a phupur at eich dant!