View text: Small Medium Large
Swp Tomato a Basil

Swp Tomato a Basil

Cynhwysion

  • 1 tin o domatos
  • 2 beint o ddwr
  • 2 llwy de fawr o biwri domato
  • 1 winwnsyn
  • 1 taten mawr
  • 3-4 clof garlleg
  • 2 llwy fawr o olew olif
  • 2 llwy de o basil
  • Halen a phupur
  • ½ llwy de o tsili (dewisol)

Dull

  1. Torrwch y garlleg a’r winwnsyn, a ffriwch tan bod y winwnsyn yn feddal
  2. Cymerwch y croen o’r taten, a torrwch.
  3. Ychwanegwch dwr i’r pan, adiwch y daten a berwch
  4. Ychwanegwch y domato a’r piwri, cymysgwch, a mudferwch y cymysgedd tan bod y taten wedi’i choginio.
  5. Adiwch y basil.
  6. Blendiwch y cymysgedd ac adiwch halen a phapur
  7. Bwytwch gyda bara ffresh, a mwynhewch!

Neu gwyliwch y fideo yma: