View text: Small Medium Large
Tai ac Arian

Tai ac Arian

Dod o hyd i gartre addas

Pan fyddi di’n gadael gofal ar ôl cyrraedd 18 oed, mae rhaid i’r awdurdod lleol helpu ti i ddod o hyd i gartre addas sy’n ffitio dy gynllun llwybr – er enghraifft, trwy fod yn agos at ble rwyt ti’n dysgu neu’n gweithio.

Mae llawer o opsiynau tai felly mae’n bwysig trafod hynny gyda’r Ymgynghorydd Personol neu’r gweithiwr cymdeithasol sy gen ti.

Opsiynau tai posib

  • Byw’n weddol annibynnol, fel llety â chymorth, tŷ i’w rannu neu fflatiau hyfforddi;
  • Lleoliad “Pan fydda i’n Barod” (rwyt ti’n gallu aros yma nes bod ti’n 21 neu’n 25 os wyt ti mewn addysg neu hyfforddiant);
  • Llety annibynnol sydd naill ai’n cael ei rentu’n breifat neu’n dŷ cymdeithasol

Gallai rhai opsiynau fod yn ‘llety heb ei reoleiddio’, sef tai dyw Arolygiaeth Gofal Cymru ddim yn archwilio.

Gwirio bod llety’n ddiogel ac yn addas

Mae’n bwysig bod ti’n gwirio gyda’th Ymgynghorydd Personol bod y llety yn ddiogel, ac yn addas i ti – o ran ble mae e a hefyd faint mae’n costio.

Mae rhaid i’th Ymgynghorydd Personol ddod i ymweld â thi yn dy lety newydd.

Dylai’r awdurdod lleol roi arian i ti ar gyfer addurno a phrynu celfi, ac mae rhaid iddyn nhw roi gwybodaeth i ti am sut mae cael help os bydd gen ti unrhyw broblemau.

Beth ddylet ti wneud mewn argyfwng

Mewn argyfwng, er enghraifft os wyt ti mewn perygl o gael dy droi allan, neu os yw dy drefniadau byw wedi methu, cysyllta â’th Ymgynghorydd Personol neu’r awdurdod lleol cyn gynted â phosib.

Efallai byddi di’n gallu mynd i lety brys, neu i lety gyda mwy o gefnogaeth.

Rheoli arian, a budd-daliadau

Mae rhaid i’th ymgynghorydd personol helpu ti i gael unrhyw fudd-daliadau rwyt ti’n gallu eu hawlio, a rhoi help i ti reoli dy arian.

Os wyt ti’n dal mewn hyfforddiant neu addysg, mae rhaid i’th awdurdod lleol helpu gyda’r costau yma, ond os dwyt ti ddim, o 18 oed ymlaen, nid yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am dalu dy holl gostau o ddydd i ddydd.

Dyna pam mae mor bwysig bod dy ymgynghorydd personol yn helpu ti i gael beth rwyt ti’n gallu hawlio i helpu gyda chostau tŷ a byw.

Beth ddylet ti ofyn i’r awdurdod lleol

Bydd gan bob awdurdod lleol ei bolisi ei hun, yn dangos beth rwyt ti’n gallu hawlio, sut mae gwneud taliadau, a pha help ariannol mae’r awdurdod lleol yn gallu rhoi i ti.

Mae’n bwysig bod ti’n gofyn am hyn.