Mynd nôl i addysg neu hyfforddiant
Os wyt ti’n berson ifanc 21-25 oed sy’n gadael gofal, ac eisiau mynd nôl i addysg neu hyfforddiant, mae’n bwysig bod ti’n cysylltu â’th awdurdod lleol eto er mwyn iddyn nhw gefnogi ti.
Mae rhaid i awdurdodau lleol roi bwrsariaeth addysg neu hyfforddiant i ti a helpu gyda chostau llety. Mae hynny’n cynnwys cefnogi ti yn ystod y gwyliau.
Rwyt ti hefyd yn gallu derbyn arian tuag at gostau addysg a hyfforddiant, fel costau teithio.
Dy Ymgynghorydd Personol
Mae dy ymgynghorydd personol yn gallu rhoi cefnogaeth i ti trwy dy addysg a’th hyfforddiant. Os does dim un gen ti, mae rhaid i’r awdurdod lleol roi un i ti. Byddi di hefyd yn gweithio ar gynllun llwybr newydd (os does dim un gen ti erbyn hyn).
25 oed a throsodd
Rwyt ti’n gallu cael y gefnogaeth yma nes bod ti’n 25, neu os yw dy gwrs yn mynd ymlaen ar ôl i ti gyrraedd 25, mae rhaid i’r awdurdod lleol gefnogi ti nes bod y cwrs yn gorffen.
Os bydd rhaid i ti stopio dy addysg neu dy hyfforddiant am gyfnod byr, rhaid i’r awdurdod barhau i roi cefnogaeth resymol i ti nes bod ti’n mynd nôl at y cwrs.
Pethau i wirio
Mae’n bwysig bod ti’n gwirio gyda’th awdurdod lleol pa help sydd ar gael i ti gydag addysg a hyfforddiant.
Os wyt ti’n mynd i’r coleg neu’r brifysgol, mae’n bwysig bod ti’n siarad â’r gwasanaethau myfyrwyr, achos byddan nhw’n gallu rhoi cyngor i ti ar y gefnogaeth sydd ar gael.