View text: Small Medium Large
Wy wedi’i ferwi

Wy wedi’i ferwi

  • Rhowch yr ŵy mewn sosban fach. Rhowch o leiaf 2.5cm (1 modfedd) o ddŵr oer drosto, ychwanegwch binsiad o halen, a rhowch y sosban ar wres uchel.
  • Pan fydd y dŵr bron â berwi, trowch yr ŵy yn ofalus a gosodwch amserydd cegin ar gyfer un o’r amseriadau isod:
    • 3 munud i gael melyn meddal iawn a gwyn sydd wedi caledu
    • 4 munud i gael melyn sydd wedi caledu rhywfaint a gwyn sydd wedi caledu
    • 5 munud i gael melyn a gwyn caletach
    • 6 munud i gael ŵy wedi’i ferwi’n galed lle mae’r melyn yn dal yn gymharol feddal
    • 7 munud i gael ŵy sydd wedi’i ferwi’n galed drwyddo
  • Pan fydd yr amser coginio wedi dod i ben, tynnwch yr ŵy allan o’r sosban â llwy ridyllog, rhowch ef mewn cwpan ŵy a’i weini ar unwaith gyda bysedd tost poeth â menyn.

Neu gwyliwch y fideo yma yn lle: